Strach: Hylc O Helynt
- About the book
- Book Reviews
Details
Mae pethau rhyfedd wedi bod yn digwydd ym mhentre Lle-od-yng-Nghornwy yn ddiweddar ac mae pawb wedi cael hen ddigon. Felly pan gaiff Brenda Mwnwgl, Andy Ben Dodd, Sue Na-mue a'u ffrindiau brosiect ysgol i'w wneud dros wyliau'r haf maen nhw'n penderfynu mynd ati i ddatrys y dirgelwch.
Buan iawn y daw'r plant o hyd i gliwiau sy'n eu harwain at yr Hylc, sef bwystfil milain sydd wedi troedio'r ddaear ers cyn cof, ac sydd nawr yn cuddio ar y mynydd. Ai fe sy'n gyfrifol am chwarae triciau ar y pentrefwyr? Ac os felly, sut mae rhoi stop arno cyn iddo anfon pawb yn hollol ddwl?