Strach: Cysgodion Cwm Mabon
- About the book
- Book Reviews
Details
Mae'n wyliau haf ac mae Jac, Lewis a Sara ar eu ffordd i aros gydag Anti Gwen. Ond ar ôl cyrraedd ei hen dŷ unig yng nghoedwig Cwm Mabon, does dim sôn amdani yn unman. Ble ar wyneb y ddaear mae hi? A beth wnawn nhw nawr? Heb unrhyw oedolyn i ddweud wrthyn nhw beth i'w wneud, dyma ddechrau ar antur ar eu pennau eu hunain!
Ond wrth i bethau rhyfedd ddechrau digwydd, mae'r plant yn sylweddoli bod rhywbeth mawr o'i le. Ystlum marw yn y gwely, pwll gwaedlyd ar waelod yr ardd, wyneb arswydus yn y drych... mae'r gwyliau'n dechrau troi'n hunllef!