Nadolig Gwyntog Rwdolff
- About the book
- Look Inside
- Book Reviews
Details
'O wps!' medd Rwdolff, druan.
'Plîs, peidiwch â bod yn gas!
Rwy'n trio peidio fflwffio...
ond llithrodd un ddirgel mas!'
Mae Rwdolff wedi bwyta gormod o sbrowts ac mae effaith drewllyd hynny i'w deimlo ar hyd a lled y byd wrth i Santa fynd â'i anrhegion ar Noswyl Nadolig. Â'r ceirw eraill yn wan gan chwerthin, tybed a fyddan nhw'n llwyddo i gyrraedd adre'n ddiogel?