Hanes Atgas: Y Ddau Ryfel Byd Enbyd
- About the book
- Book Reviews
Details
Beth oedd yr holl ganu Cymraeg oedd yn dod o'r ffosydd?
Sut mae coginio sglodion mewn helmed?
Ble'r oedd holl drysorau'r Ail Ryfel Byd wedi eu cuddio?
Gwybodaeth handi iawn, meddech chi! A digon o ffeithiau ffiaidd a ffrwydrol am ymgyrchoedd ynfyd, arwyr arswydol, menywod mentrus, bwlis bril, creaduriaid cythreulig, troseddau trasig, cosbau creulon, rheolau rhyfeddol, tictactau trawiadol, ystadegau ysgytwol a dial dieflig. A hynny i gyd cyn dechrau ar y tips twp a'r swsus swnllyd!
Yn sicr, fe fyddwch chi ar flaen y gad ar ôl darllen Hanes Atgas Y Ddau Ryfel Byd Enbyd