Hanes Atgas: Y Celtiaid Cynhennus A'r Rhufeiniaid Rhyfygus
- About the book
- Book Reviews
Details
Hanes sy'n dweud y gwir atgas i gyd!
Celtiaid? Rhufeiniaid? Pwy oedden nhw, tybed? Wel, dyna'r bobl gynhennus a rhyfygus y mae eu hanes atgas nhw'n cael ei adrodd yn y gyfrol hon. Yn gawl blasus o ffeithiau a chwedlau difyr, dyma gyfle i holi:
- Tybed oedd y Celtiaid yn bod o gwbwl?
- Pam mai noson Galan Gaeaf oedd noson fwyaf brawychus y flwyddyn i bob carcharor Celtaidd a throseddwr trychinebus?
- Pa ddefnydd oedd gan y Rhufeiniaid i ymennydd llygod?
- Pam nad yw'n syniad da i wisgo toga yng Nghymru?
Un peth sy'n sicr, roedd y Celtiaid cynhennus a'r Rhufeiniaid rhyfygus wrth eu bodd yn ymladd a rhyfela, felly cewch yma ddigon o ffeithiau ffiaidd a straeon stranclyd am ffraeo ffyrnig a brwydro brawychus. Ac nid dim ond y dynion oedd wrthi, cofiwch chi. O na, roedd na fenywod oedd yn go handi ar faes y gad hefyd - nifer ohonyn nhw'n fwy galluog na'u gŵyr! Oedd, roedd gan bawb eu rhan i chwarae wrth greu'r holl hanes atgas hwn!
Felly, gwisgwch eich helmed a'ch sandalau, cydiwch yn eich tarian ac i fyd y Celtiid cynhennus a'r Rhufeiniaid rhyfygus â ni!