Geiriau Gorfoledd A Galar
- Manylion y llyfr
- Adolygiadau Llyfr
Manylion
Tybed sawl gwaith y cawsoch chi drafferth dod o hyd i'r peth iawn i'w ddweud ar achlysur arbennig? Sut mae mynegi llawenydd ar adegau o orfoleddu, cydlawenhau a dathlu; a mynegi tristwch ar adegau o rannu gofid, galar ac ansicrwydd?
Yn y casgliad unigryw hwn o farddoniaeth a rhyddiaith, mae modd dod o hyd i'r union air a'r union deimlad ar gyfer pob cam ar hyd siwrnai bywyd - 'o gri ein geni hyd ein holaf gŵyn'.
Dyma gyfrol anhepgorol i rai sy'n cymryd rhan mewn achlysuron cyhoeddus - pan fydd galw ar rywun i ddweud gair doeth mewn bedydd, priodas neu angladd.
Mae yma hefyd ddigonedd o ddyfyniadau priodol i'w hysgrifennu ar gerdyn - geiriau o gadernid, o lawenydd ac o gysur ar gyfer holl droeon mawr bywyd.
Cewch rhwng y cloriau hyn hefyd drysorau i dreulio orig dawel ar eich pen eich hun yn eu cwmni. Yn wir, unrhyw adeg y bydd arnoch angen gair yn ei bryd - dyma'r llyfr i chi.