James Nicholas
"Brodor o Dyddewi, Sir Benfro oedd James Nicholas. Treuliodd ei yrfa ym myd addysg: bu'n athro Mathemateg yn y Bala, Penfro a Thyddewi, ac yn brifathro Ysgol y Preseli, cyn ei benodi'n Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi yn 1975.
Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969 a gwnaeth gyfraniad enfawr i'r Orsedd a'r Eisteddfod ers hynny; bu'n Archdderwydd Cymru rhwng 1981 ac 1984 ac yn Gofiadur i'r Orsedd tan 2005.
Bu farw yn 2013.