Cân Di Bennill
- Manylion y llyfr
- Adolygiadau Llyfr
Manylion
Cyhoeddir yma gasgliad unigryw o ganeuon gwerin a thraddodiadol mwyaf adnabyddus a phoblogaidd Cymru, gan gynnwys darnau mor amrywiol â 'Bugail Aberdyfi, a'r 'Gân Sobri'; 'Fuoch Chi 'Rioed yn Morio?' a 'Pwy sy'n dŵad dros y bryn', a'r caneuon i gyd wedi eu trefnu'n ddeheuig gyda chyfeiliant piano syml, alaw sol-ffa a chordiau gitâr. Yn ogystal â'r caneuon cynhwysir rhai o'r alawon telyn enwocaf, sy'n sail i gerdd dant ac yn gyfeiliant mynych i ddawnsio gwerin.
Dyma gyfrol anhepgor i bob ysgol, cymdeithas, aelwyd a chartref Cymraeg