Strach: Myfi Morris, Y FaciwÎ
- Manylion y llyfr
- Adolygiadau Llyfr
Manylion
Doedd Myfi Morris ddim eisiau mynd i Dyddyn Grug at Yncl Peris ac Anti Gwyneth - ddim dros ei chrogi. Roedd mor bell o 13 Gabriel Street, Lerpwl. Ond wrth i'w thad gael call up i'r fyddin, ac wrth i fomiau'r Lufftwaffe chwalu rhannau o'r ddinas yn rhacs adeg y Nadolig yn 1940, doedd dim dewis ond mynd.
Tybed a fydd Myfi'n llwyddo i setlo yn ei chartref newydd a beth fydd ei hanes pan ddaw'r rhyfel i ben? Mae un peth yn sicr, fydd pethau fyth yr un peth eto...