Strach: Gedonia
- About the book
- Book Reviews
Details
Y flwyddyn yw 2051.
Ac union flwyddyn wedi i Llwyd ac Arddun drechu pwerau tywyll Gedon Ddu, mae'r dewisedig rai ar fin cael eu galw eto i achub dyfodol Cymru.
Does gan y ddau ddim syniad beth sydd o'u blaenau. Maen nhw ar fin camu ar reid fwyaf peryglus a chyffrous eu bywydau.
Wyt ti am ddod hefyd? Dalia'n dynn...
Dyma nofel sy'n fwrlwm o antur a chwedloniaeth ac yn ddilyniant cyffrous i Yr Allwedd Aur.