Strach: SÊr Y Nos
- Manylion y llyfr
- Adolygiadau Llyfr
Manylion
Diolch i BB, eu rheolwr rhyfeddol, mae aelodau'r grŵp yn defnyddio'r dechnegol fwyaf modern i erlid dihirod dros Gymru gyfan. Felly, gyda sôn am wenwyno yng Nghanolfan Ymwelwyr Hafod Eryri, mae Sêr y Nos yn defnyddio'u rocedi chwim i wibio i gopa'r Wyddfa i ymchwilio. Ond nid dyma'r unig achos sy'n denu sylw. Tybed a all Sêr y Nos ddatrys yr holl ddirgelwch cyn y bydd hi'n rhy hwyr, neu a fydd pethau'n mynd yn drech na nhw?
Dyma nofel dditectif gyffrous gan yr awdur amryddawn Martyn Geraint