Mwy O Fyd Bethan

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781843234814

Dyddiad Cyhoeddi: 2005

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 168

Teitl ar gael ar ffurf:

£3.00
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Byd mawr yw byd Bethan Gwanas – mae’n cynnwys Syria a Dolgellau, Belffast a Harlech, ei milltir sgwâr a phellafoedd daear. Mae’n llawn o bobol ddifyr, mae ynddo ryfel cartref gydag oen barus sy’n hoffi blodau a hanes mynd i drafferth mewn canŵ. A dweud y gwir, mae ei byd yn llawn i’r ymylon!

Dyma ddilyniant i’r gyfrol boblogaidd honno, Byd Bethan, sy’n cynnwys rhagor o’r erthyglau a gyhoeddwyd gyntaf yn yr Herald Cymraeg. Mae yn y gyfrol hon eto rywbeth at ddant pawb – yn hen ac ifanc, Cymry o’r crud, a Chymry o ddewis (sef yr enw newydd ar ddysgwyr, mae'n debyg), ffans Amdani! a Blodwen Jones. A dweud y gwir, dyma’r llyfr ysgafn, difyr hwnnw rydych chi wedi bod yn chwilio amdano yn Gymraeg ers oes y pys!