Trysorfa T. Llew Jones
- About the book
- Look Inside
- Book Reviews
Details
Pencerdd, Athro, Cyfarwydd, Storïwr. Mae'r geiriau hyn i gyd yn disgrifio T. Llew Jones, un sydd â'i gyfraniad i lenyddiaeth Cymru yn anfesuradwy.
Bydd darllenwyr hen a newydd yn mwynhau pori yn y gyfrol hon i weld rhai o'r hen ffefrynnau, yn ogystal â chip ar ambell i gyfraniad newydd gan y meistr ei hun.
Mae yma ddarnau o nofelau, storïau a cherddi, a'r cyfan yn dyst i ddawn dweud anhygoel T. Llew Jones.
Mae'n dal ei gynulleidfa, a'r gynulleidfa honno'n cael ei hudo gan ddawn y dewin geiriau. Paratowch ar gyfer cael eich swyno unwaith eto...