Stori Jigi Ap Sgiw: Dial Y Polter-Ŵydd
- About the book
- Book Reviews
Details
Mae Jigi a'i ffrindiau yn ei chanol hi unwaith eto! Pwy fyddai wedi meddwl y gallai gŵydd fach ddiniwed achosi'r fath drafferth iddyn nhw? Ond mae un peth yn sicr, mae hi'n benderfynol o ddial ar rywun, ac mae Jigi amdani y tro hwn! Mae hi'n reiat go iawn yn yr ysgol, a dyw pethau yng nghartref newydd y teulu fawr gwell chwaith! Tybed a fydd Triawd y Buarth yn llwyddo i gael trefn ar y sefyllfa cyn i bethau fynd dros ben llestri go iawn?!