Cysgod Y Darian
- About the book
- Translated Description
- Book Reviews
Details
Dydy bywyd ddim yn hawdd i Ioan Arthur ers iddo golli ei dad, symud tŷ a newid ysgol, lle mae criw o fwlis yn ei arteithio bob dydd. Ychydig a wyddai wrth gwrdd â Gwen a Glorwth fod pethau ar fin gwaethygu. Mae Ioan yn cael ei daflu yn ôl i fyd Aneurin a Thaliesin - byd o fudiadau cudd, Llychlynwyr ffyrnig, pwerau arallfydol, telepathi a chludwyr amser. Mae tasg Ioan o ddod o hyd i'r Darian Hudol yn un sy'n mynd ag ef ar daith llawen perygl a chyffro. Ar y ffordd, mae'n darganfod yr holl gyfrinachau sy'n llechu yng nghysgod y darian, gan gynnwys y gwir am ei dad.