-
About the book
-
Look Inside
-
Book Reviews
Details
Pwsi Meri Mew, ceiliog bach y dandi, deryn y bwn, bonheddwr mawr o'r Bala, hen fenyw fach Cydweli, maen nhw i gyd yn dod at ei gilydd yn gwmni llon o fewn cloriau'r casgliad hyfryd hwn o hwiangerddi. Cyfle i fwynhau cerddi a rhigymau cyfarwydd ac anghyfarwydd a'u trysori am byth
Elin Meek
"Ganed Elin Meek yn Abertawe ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Ramadeg y Merched, Caerfyrddin. Mae wedi addasu toreth o lyfrau i blant ac oedolion dros y blynyddoedd.
Hi hefyd yw awdur cyfres boblogaidd Helpwch eich Plentyn, Y Ci Mawr Blewog yn y gyfres ar Wib ac Ennill y Ras yn y gyfres I'r Byw. Roedd ei nofel Ffion ar Tîm Rygbi yn y gyfres Ar Wib ar Restr Fer Tir na n-Og yn 2006.
Medd Elin "Pan o'n i'n blentyn, ro'n i'n arfer dwlu ar dreulio'r prynhawn yn darllen mewn sach gysgu gyda phentwr o lyfrau wrth law...Mae llyfrau wedi bod fel ffrindiau gorau i mi erioed. Felly, mae'n braf iawn cael addasu ac ysgrifennu llyfrau a gobeithio y bydd ambell lyfr yn ffrind gorau i rywun arall."
To go to the previous or next page, hover over the left and right edges of the page and click.