Trysor Y Môr-ladron
- About the book
- Book Reviews
Details
Dyma antur sy'n mynd â ni o berfeddion de Cymru, i Loegr a thros y môr i'r Gorllewin pell wrth i ni ddilyn hynt a helynt y môr-leidr Syr Harri Morgan a'i griw.
Wrth wraidd yr holl gyffro y mae trysor a gladdodd Harri yng nghanol y goedwig wrth odre mynyddoedd y Sierra Nevada. Ond llwyddodd y dihiryn Richard Llwyd a'i gyfaill Wil Ddu i gael hyd i fab Harri, gan sbarduno taith ryfeddol i hawlio'r trysor. Tybed pwy fydd yn llwyddo i ganfod y trysor gyntaf, a phwy fydd ar ôl i adrodd yr hanes?