-
About the book
-
Translated Description
-
Book Reviews
The third in a series of three novels about the extraordinary teacher, Miss Prydderch and her class of adventurous pupils. Will Alfred and Elen return to the Owl Forest and reach their school in time?
Details
Mentrwch gyda'r dosbarth ar y carped hud I Goedwig y Tylluanod. Cewch weld rhyfeddodau... Ond peidiwch da chi ag edrychi fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma'r llyfr olaf mewn trioleg o lyfrau am anturiaethau Alfred, Elen a phlant dosbarth Miss Prydderch.
Mererid Hopwood
Cafodd Mererid Hopwood ei geni a'i magu yng Nghaerdydd ond daw'r teulu o Bontiago, Sir Benfro, lle mae cysylltiadau cryfion o hyd. Graddiodd mewn Sbaeneg ac Almaeneg yn Aberystwyth, cyn cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Llundain. Bellach mae'n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i theulu. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn 2001 a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2003. Bu'n Fardd Plant Cymru yn 2005. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008 gyda'i chyfrol O Ran. Hi yw'r ferch gyntaf i gyflawni'r gamp o ennill tair prif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn 2015 cyhoeddodd ei chyfrol o gerddi Nes Draw.