Cyfres Cawdel: Dirgelwch Pentre Ifan
- About the book
- Book Reviews
Details
'Beth ar wyneb y ddaear 'ych chi'n meddwl chi'n neud 'ma? Mae'n ganol nos! Dewch mla'n atebwch fi, NAWR!'
Mae'n wyliau haf a'r criw ffrindiau heb weld ei gilydd ers dros bythefnos. Ond daw galwad ffôn i newid popeth a chyn bo hir mae Deian, Rhodri, Jac a Glyn ar eu ffordd i Sir Benfro am benwythnos mewn campyr-fan liwgar. Â Phentre Ifan a Chastell Henllys yn denu, ddylai cadw allan o drwbwl ddim bod yn ormod o broblem i'r criw y tro hwn. Ond wrth iddyn nhw ddechrau dod o hyd i un arteffact Celtaidd ar ôl y llall, mae'r ysfa am antur yn ormod...