Cyfres Cawdel: Dirgelwch Gwersyll Llangrannog
- About the book
- Book Reviews
Details
'Wir nawr bois, rhaid i ni neud ymdrech arbennig dros y tridie nesa 'ma i gadw'n trwyne'n lân. Wneith penwythnos bach tawel, braf, y tro yn iawn i ni!'
Ond rywsut, mae'n anodd credu hynny. Does dim disgwyl i ymweliad ag un o wersylloedd yr Urdd gyda Glyn, Deian, Jac a Rhodri fod yn dawel, hyd yn oed os yw Rhys, brawd bach Jac, wedi cael ymuno â'r criw ar eu hantur ddiweddaraf. Gwibgartio, marchogaeth ceffylau, reidio beiciau cwad, heb sôn am ymweliadau â'r traeth ac ogofâu môr-ladron...does wybod beth ddigwydd nesaf!