Achub Y Cwm
- About the book
- Book Reviews
Details
1963 yw'r flwyddyn, ac mae brwydr fawr yn wynebu pobl Llangyndeyrn - brwydr i achub eu pentref a'u cymuned. Pobl bwysig a barus Abertawe sy'n bygwth bodd Cwm y Gwendraeth Fach er mwyn creu cronfa ddŵr ac argae yno. Does dim dewis gan y pentrefwyr ond brwydro i achub eu tir, eu cartrefi, eu bywoliaeth a'u cymdeithas. Ond beth all plant y pentref ei wneud? Pa ran allan nhw ei chwarae yn y frwydr hon?
Mae Rebeca Gwenllian Jones a'i ffrindiau'n benderfynol o helpu, a chyn hir maen nhw'n ffurfio Cymdeithas Cyndeyrn. Cynllunio...gweithredu...patrôlio'r pentref...codi arian...protestio...gorymdeithio...colli ysgol, hyd yn oed...ond a fydd y cyfan yn ofer? A fydd modd Achub y Cwm?