Llwybrau Llonyddwch
- About the book
- Book Reviews
Details
Teithiau i ardaloedd o heddwch a thangnefedd drwy Gymru gyfan sydd yn y casgliad hwn o ysgrifau taith gan Aled Lewis Evans.
Mae’r mannau mewn lleoliadau traddodiadol a rhai annisgwyl, ac yn ddewis personol yr awdur. Ym mhob pennod datgelir hanes, cymeriadau, ac awyrgylch ysbrydol y lleoliadau hynny.
Mae lluniau hyfryd Emyr Young yn ychwanegu at naws y teithiau, ac yn eich arwain ar hyd llwybrau llonyddwch. Canfyddir tawelwch ambell dro yng nghanol tref neu ddinas, yn ogystal â hafan yng nghefn gwlad ac ar lwybrau’r pererinion oesol. Drwy’r cyfan, datgelir taith ysbrydol yr awdur, a llecynnau o fyfyrdod ac adferiad mewn byd prysur a chymhleth hefyd.