Trysor
- About the book
- Book Reviews
Details
Mae Matt yn caru Amy, ond a yw Amy'n caru Matt? A beth am Jackie, mam Amy? Pwy mae hi'n ei garu? Bu farw mam Matt pan oedd e'n ifanc - a fydd ei dad yn medru caru unrhyw un byth eto? Stori gyfoes yw Trysor. Mae pedwar cymeriad y ddrama'n gwau drwy'r stori a heb yn wybod iddynt daw eu bywydau ynghyd mewn modd annisgwyl. Mae'r ddrama'n archwilio pynciau sy'n berthnasol i ni heddiw ac yn gwneud i ni feddwl hefyd am ein daliadau a'n hegwyddorion ni o ran perthynas. Beth sy'n iawn a beth sydd ddim? Dyma lwyfan delfrydol ar gyfer trafodaeth ysgol uwchradd.