Ar Goll
- About the book
- Book Reviews
Details
Mae Ar Goll yn ddrama sy'n rhoi gwedd fodern ar hen stori'r Brodyr Grimm am Hansel a Grethel.
Clywir pedwar llais yn y ddrama hon - Hansel a Grethel eu hunain, eu tad a'u llysfam; a lle bynnag y mae llysfam mewn stori, mae'n siŵr fod yna ddrwg yn y caws. Mae bywyd yn galed iddyn nhw, does dim da yn digwydd byth ac mae byw o ddydd i ddydd yn frwydr gyson.
Y mae Grethel yn cael ei chipio ac yn sydyn mae holl sylw'r cyfryngau a llygaid y byd yn troi tuag at y teulu llwm hwn. Mae'r straeon yn gyfarwydd i'n cymdeithas ni heddiw; o'r gynhadledd i'r wasg ddagreuol gan y teulu o flaen y camerâu i'r dadansoddiad didrugaredd o fywydau teuluol pobl gyffredin. Dyma hanes cyfoes ein hamserau ni.