Anne Frank
- About the book
- Book Reviews
Details
Mae hanes Anne Frank yn adnabyddus i bawb drwy'r byd fel cofnod dyddiadur o feddyliau merch ifanc adeg yr Ail Ryfel Byd. Mae'n nodi ei hofnau a'i gobeithion am ddyfodol na chafodd ei wireddu. Seiliwyd y ddrama hon ar ddyddiadur Anne ac mae'n ymchwilio i brofiadau a meddyliau pobl ifanc ar gyfnod o argyfwng dybryd. Dyma ddrama sy'n codi cwr y llen ar un o hanesion mwyaf dirdynnol yr ugeinfed ganrif ac sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol uwchradd drafod teimladau ac emosiynau personol ar ganfas digwyddiadau byd-eang.