Hoff Gerddi Natur Cymru
- About the book
- Book Reviews
Details
Yn y gyfrol hon, y ddiweddaraf o flodeugerddi o ffefrynnau ar thema arbennig gan Wasg Gomer, ceir trawsdoriad o gerddi fydd yn diddanu, yn codi gwên, yn brawychu ac yn anesmwytho. Ie, tlws yw natur ar ei orau, ond maen greulon a gwaedlyd ar brydiau hefyd.
Un peth syn sicr, yn y gymysgedd or cyfarwydd ar newydd, y telynegol ar heriol, bydd yma rywbeth fydd yn apelio at bawb, waeth beth foch oedran na faint y byddwch chin ymwneud â byd natur fel arfer.
Bydd ambell gerdd yn dwyn atgofion yn genlli, eraill yn berlau newydd iw darganfod. Mwynhewch ennyd yn awyr iach byd natur beirdd gorau Cymru