Ar Orwel Eryri
- About the book
- Book Reviews
Details
Yn Ar Orwel Eryri, sydd yn cael ei gyhoeddi ar y cyd â Chymdeithas Eryri, cyflwynir ffotograffiaeth ddramatig Steve Lewis ochr yn ochr ag ysgrifau byrion gan dri deg o drigolion a charedigion y Parc hudol hwn. Mae rhai, fel Kyffin Williams, Dafydd Elis Thomas ac Iolo Williams yn enwau cenedlaethol; a'r lleill, er yn llai adnabyddus, yr un mor awdurdodol wrth leisio eu cariad at y tir a'r ffordd o fyw.
Fel y dywed Bryn Terfel, un o wŷr amlycaf Eryri, yn ei ragair:
Braint i ni yw eu bod wedi rhoi cipolwg bychan i ni ar yr hyn sy'n gwneud y Parc a'i gymunedau yn rhan mor arbennig o'r byd.
Mae fersiwn Saesneg o'r llyfr, Private Views of Snowdonia hefyd ar gael.
Am fwy o wybodaeth am y llyfr, edrychwch ar wefan Cymdeithas Eryri