Y Trwbadŵr: Dennis O'neill
- About the book
- Book Reviews
Details
Ond os yw'r gŵr bach o gorff hwn 'yn gawr ar y llwyfan', chwedl Ray Gravell, mae e hefyd yn berson cyflawn, mawr ei barch, oddi ar y llwyfan. 'Hael a charedig' a 'diymhongar' yw rhai o'r geiriau a ddefnyddir yn aml i'w ddisgrifio, ac mae 'na elfen gref o hiwmor yn perthyn iddo hefyd.
Dyma gyfle i dreiddio i gymeriad Dennis, y canwr proffesiynol a'r dyn tu ôl i'r mwgwd theatrig - beth sy'n ei wneud yr hyn ydyw ar lwyfan ac yn ei fywyd bob dydd - a hynny trwy lygaid Frank Lincoln, cyfaill, edmygydd, ac un sy'n ei adnabod yn dda ers blynyddoedd.