Details
Cofnod o gyfnod unigryw yn hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru yw'r gyfrol hon o'r 60au hyd heddiw.
Roedd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr yn rhan bwysig o'r chwyldro ffrwydrol wnaeth gyffroi cenhedlaeth gyfan.
Dyma olwg ar y Sîn Roc Gymraeg - o'r tu mewn.
Llais Geraint sydd yn Twrw Jarman...mae'r gyfrol hon yn roc a rôl llwyr..
Eurof Williams
"Yn enedigol o Gwm Tawe, cafodd yrfa lwyddiannus ac amrywiol ar radio a theledu, gyda'r BBC, a chwmnïau annibynnol gan gynnwys ennill gwobr BAFTA yn 1997 am ei ffilm am Elvis.
Cydweithiodd â sêr canu ysgafn Cymru, o Jac a Wil i Geraint Griffiths, o'r Trwynau Coch (ef oedd eu rheolwr) i Mary Hopkin, fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr, ac mae ganddo gyfoeth o wybodaeth am y byd adloniant ysgafn Cymreig. Rhanna ei wybodaeth yn y gyfrol Byd O Gân: Atgofion Melys Jac Davies.