Rhyfedd O Fyd
- About the book
- Book Reviews
Details
A oes 'na bethau sy'n eich cynhyrfu chi? Datblygiadau sy'n peri i chi ofidio sut fyd fydd y blaned ryfedd hon ar gyfer ein plant a'n hwyrion, heb sôn am etifeddion y ganrif nesaf?
Cafodd Gruff Roberts ei gynhyrfu ddigon gan rai o bynciau diwylliannol, gwyddonol a gwleidyddol ein hoes i ysgrifennu'r gyfrol hon - cyfrol fyfyriol a thân yn ei bol - sy'n trafod, yn ddi-lol, ond o ddifri calon, y syniadau mawrion hynny sy'n cyffwrdd â bywyd beunyddiol pob un ohonom.
Heb fod yn drwm nac yn academaidd mae'n gofyn i ni ystyried pynciau mor amrywiol â grym celfyddyd i'n cyffroi, cynhesu byd-eang ac ystyr bod yn genedl.