Geiriadur Cymraeg Gomer
- About the book
- Translated Description
- Book Reviews
Details
Dyma eiriadur cyfoes ac angenrheidiol ar gyfer pawb sy’n defnyddio neu’n dysgu’r Gymraeg.
• 43,000 o gofnodion yn diffinio ystyr geiriau Cymraeg yn Gymraeg, ynghyd â’u cyfystyron
• geiriau Saesneg cyfatebol ar ddiwedd cofnod
• ymadroddion a phriod-ddulliau
• termau ar draws ystod o feysydd pwnc arbenigol
• geiriau ac ymadroddion estron
• brawddegau enghreifftiol
• arweiniad gramadegol ar sut i ddefnyddio’r geiriau, gan gynnwys treigladau
• patrymau rhedeg berfau ac arddodiaid a phatrwm cymharu ansoddeiriau
• labeli defnydd geiriau (anffurfiol, hynafol, etc.)
• adran Saesneg–Cymraeg yn ateb y cwestiwn ‘Beth yw’r gair Cymraeg am . . . ?’
A contemporary and essential dictionary for Welsh speakers and learners.
'Arwydd bod iaith yn fyw ac yn iach ac yn dal i ddatblygu yw fod galw am eiriaduron newydd o hyd; y mae'r campwaith hwn yn brawf o hynny - geiriadur clir a chyfoes sy'n gyforiog o wybodaeth diddorol, ac o ganllawiau am y defnydd o eiriau yn ogystal â'u hystyron.' Dafydd Iwan
'Yn ddi-os, dyma adnodd a fydd yn hynod o werthfawr i fyfyrwyr ystod eang o bynciau. Rwy'n ei groesawu'n fawr iawn.' Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
'Geiriadur anhepgor i bawb sy'n defnyddio'r Gymraeg heddiw. Carreg filltir ofnadwy o bwysig i'n hiaith.' Rhodri Morgan
'Testun sy'n rhoi ar unwaith stori wych mewn rhestrau iaith.' Mererid Hopwood