Gwaed Gwirion
- About the book
- Book Reviews
Details
Cyhoeddwyd Gwaed Gwirion gan Emyr Jones gyntaf yn 1965; dros y blynyddoedd creodd y gyfrol hynod hon argraff ryfeddol ar genedlaethau o ddarllenwyr Cymru fel cofnod uniongyrchol a dirdynnol o fywyd milwr adeg rhyfel mawr 1914–1918.
Yn yr argraffiad newydd hwn o Gwaed Gwiriony mae’r lleisiau oddi mewn i’r gyfrol yr un mor glir a thaer ag yr oeddent bron hanner can mlynedd yn ôl. Camp ddiamheuol Emyr Jones oedd dal hanfod llais y Cymro cyffredin ar gyfnod o argyfwng rhyngwladol mewn modd mor realistig – daw profiadau Dan, Meic a Chopper yn fyw i ni.
Ceir rhagymadrodd helaeth a manwl gan yr Athro Gerwyn wiliams yn cofnodi hanes creu Gwaed Gwirion ac yn bwrw golwg newydd ac annisgwyl ar dras llenyddol y clasur modern hwn.