-
About the book
-
Translated Description
-
Book Reviews
The coal miners' trike is at its boiling point, and people are leaving their local communities in search of work. Stephen Andrews has never lived life on the edge - and there's a rising tension between him and his father. Exciting images in military magazines catch Stephen's attention and convince him to escape by joining the army. For the first time in his life her belongs somewhere. He's one of the lads. But hell awaits him on the Falkland Islands, and fighting the war against the "Argies" is far from the images in the recruitment magazines.
Details
Mae streic y glowyr yn ei hanterth, a phobl yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith. Byw bywyd ar y cyrion fu Stephen Andrews erioed - ac mae tensiwn cynyddol rhyngddo a'i dad. Mae delweddau cyffrous cylchgrawn milwrol yn denu Stephen i ddianc ac ymuno â'r fyddin. Am y tro cyntaf yn ei fywyd mae'n perthyn. Mae'n un o'r hogiau. Ond uffarn sy'n ei aros ar Ynysoedd y Falklands, ac mae ymladd rhyfel yn erbyn yr 'Arjis' yn bell o ddelweddau'r cylchgronau recriwtio.
Llion Iwan
Darlithydd yn Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau, Prifysgol Cymru Bangor yw Llion Iwan. Mae'n gyn-gynhyrchydd teledu gyda BBC Cymru. Bu hefyd yn ohebydd i'r North Wales Weekly News a'r Cambrian News. Daw yn wreiddiol o'r Waunfawr ac mae'n fab hynaf i'r gwleidydd a'r canwr, Dafydd Iwan. Aeth i Ysgol Waunfawr ac Ysgol Syr Hugh Owen a graddiodd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Erbyn hyn mae'n byw yn y Groeslon.