Cymru Mewn 100 Gwrthrych

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781785621444

Dyddiad Cyhoeddi: Medi 2018

Ffurf: Clawr Caled

Nifer o Dudalennau 222

Teitl ar gael ar ffurf:

£19.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Cyfieithiad
  3. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Cyfrol yw hon sy'n crisialu hanes Cymru mewn cant gwrthrych. Llawfwyell Ogof Pontnewydd, arfbais Owain Glyndŵr, yr het Gymreig, record cyntaf Catatonia - mae'r ystod yn eang ac yn amrywiol o ran cyfnod ac ardal, a'r casgliad wedi'i guradu'n grefftus gan Andrew Green. Wrth osod y gwrthrychau yn eu cyd-destun dynol, cawn hanesion y tywysogion, y terfysgwyr a'r tlodion, eu brwydrau a'u bywydau bob dydd, a'r cyfan yn cyd-blethu'n gelfydd ac yn ein tywys ar hyd llwybr Cymru fel cenedl. Mae lluniau godidog Rolant Dafis yn destament i bŵer ffotograffiaeth a'i gallu i adrodd stori. Camp y gyfrol yw ei bod yn berthnasol I ni heddiw, y gwrthrychau yn hygyrch I bawb, ac i'w gweld yn rhad ac am ddim ar draws Cymru. Hefyd ar gael yn Saesneg fel: Wales in 100 Objects