Cof Cenedl Xxiii
- About the book
- Book Reviews
Details
Yn y gyfrol hon ceir ysgrifau ar amrywiol bynciau gan A.D. Carr, Huw Meirion Edwards, William P. Griffith, Anwen Jones, Dafydd Roberts a Siwan Rosser.
'Cyfrol ragorol o ysgrifau bywiog, gafaelgar a difyr.' Y Cymro
'Cyfres anhepgor a gwir lwyddiannus.' Cylchgrawn Hanes Cymru
'Nid gormodiaith yw honni i'r gyfres hon drawsnewid ein dealltwriaeth o'n gorffennol a'n hagwedd at ein hanes.' Y Traethodydd
Cynnwys y gyfrol:
Y Canu Dychan yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol gan Huw M. Edwards
Gweithwyr a Gwaith yng Nghymru'r Oesoedd Canol gan A.D. Carr
Baledi Newyddiadurol Elis y Cowper gan Siwan M. Rosser
Theatr Genedlaethol Cymru: Hanes Datblygiad Hunaniaeth Ddramataidd yn y Gymru Fodern gan Anwen Jones
Gweinyddu Cymru rhwng y Ddau Ryfel Byd gan William P. Griffith
'A Narrow Swathe of English Eccentricity?: Ailagor Rheilffyrdd Tal-y-llyn a Ffestiniog gan Dafydd Roberts