Canu Caeth: Y Cymry A'r Affro-americaniaid
- About the book
- Book Reviews
Details
Mewn cyflwyniad eang a deuddeg ysgrif ddadlennol, fen tywysir o hanes prif ladmerydd yr ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth yng Nghymrur 18fed ganrif ir Cymro Americanaidd a wnaeth fwy oddieithr yr Arlywydd Lincoln dros ryddhaur caethion, i hunangofiant caethwas a gyhoeddwyd yng Nghaerdydd.
Wedi cyrraedd yr ugeinfed ganrif ystyrir perthynas Paul Robeson âr Cymry, y portread or Affro-Americaniad ar ffilm yn y Gymru gyfoes, ac fe geir ymdriniaeth arbennig o gerdd liwgar un on beirdd amlycaf.
A thrwyr cyfan, fel trawsacen mewn alaw jazz, gwëir ymateb llenorion, beirdd a gwleidyddion iw profiad personol ac arbennig hwy o fyd a diwylliant yr Affro-Americaniaid.
Cyfranwyr: Simon Brooks | Menna Elfyn | Hywel Francis Gwenno Ffrancon | Jerry Hunter | E. Wyn James | Bill Jones Harri Pritchard Jones | Helen Mary Jones | Owen Martell Gareth Miles | Daniel G. Williams | David Wyatt