Hon: Ynys Y Galon
- About the book
- Book Reviews
Details
Yn y byd go iawn, fel ym myd y chwedlau, ynys ar y gorwel yw Gwales. Ond i Iwan Bala, ynys y galon yw hon.
Dyma gyfrol unigryw, fendigedig o waith Iwan Bala, un o artistiaid mwyaf blaenllaw a blaengar Cymru. Ceir yn ogystal gyfraniadau gan rai o awduron a llenorion gorau'r wlad megis Mererid Hopwood, Iwan Llwyd, Twm Morys, Jon Gower, John Meirion Morris, Sioned Davies, a Siân Melangell Dafydd.
Cewch gyfle i ymgolli mewn delweddau pwerus sy'n ymestyn o arfordir gorllewin Cymru i Manhattan, o'r Bala i Zimbabwe Fawr.
'Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon'