Ar Flaen Fy Nhafod
- Manylion y llyfr
- Adolygiadau Llyfr
Manylion
Yn y gyfrol hon mae D. Geraint Lewis yn corlannu casgliad o ymadroddion amrywiol a difyr yn yr iaith Gymraeg ac yn mynd ar drywydd yr ymadrodd ‘pert’ yn ei arddull ddihafal ei hun.
Daw’r ymadroddion o bob cwr o fywyd Cymru, ac o bob ardal hefyd. Mae tarddiad a chyd-destun yn ychwanegu at gyfanrwydd y darlun, ac mae mynegai Saesneg i wneud y gyfrol yn ddefnyddiol i ddysgwyr ac addysgwyr fel ei gilydd.
Nid cyfeirlyfr mo’r gyfrol ond taith ansbaradigaethus o gwmpas yr iaith a’i nodweddion unigryw a rhyfeddol. Mwynhewch y wibdaith.