Y Storiwr

Y Storiwr

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781848515147

Dyddiad Cyhoeddi: 08/08/2012

Ffurf: Ebook

Nifer o Dudalennau 275

Teitl ar gael ar ffurf:

£7.99
£7.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Ganwyd Gwydion McGideon ar noson enbyd o dywydd mawr yng ngorllewin Cymru.

Mae gan y bachgen bach ddawn ryfeddol i ddweud stori, dawn sy'n cyfareddu ac yn ennill ffrindiau, dawn sy'n gwneud ei ffortiwn, dawn sy'n ennyn diddordeb yr awdurdodau, dawn sy'n tynnu sylw'r gwasanaethau cudd.

Dawn hefyd sy’n gwneud gelynion. Ac mae un gelyn gwaeth na'r cyfan, yn gysgod milain dros hapusrwydd Gwydion gydol ei oes. Mae'r gelyn hwn yn ymarfer ei grefft lofruddgar, farwol ar draws y byd cyn dychwelyd i Gymru ar gyfer y gwrthdaro terfynol dychrynllyd. Un yn unig all oroesi.

Mae Jon Gower yn gonsuriwr geiriau, a chreodd fyd o hud a lledrith yn y nofel hon.

Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2012