Hen Benillion

HEN BENILLION

Language: Cymraeg

ISBN: 9781843239390

Current Publication Date: 2010

Format: Paperback

Number of Pages: 240

Title available as:

£8.99
  1. About the book
  2. Book Reviews

Details

Dwedai hen ŵr llwyd o'r gornel,
'Gan fy nhad mi glywais chwedel,
A chan ei daid y clywsai yntau,
Ac ar ei ôl mi gofiais innau.'

Er mor hen yw'r hen benillion a gasglwyd ynghyd gan T. H. Parry-Williams ym 1940, mae eu swyn a'u synnwyr mor gyfoes a gogleisiol ag erioed. Weithiau maent yn ein hysgwyd; dro arall, yn tynnu deigryn:

Derfydd aur, a derfydd arian,
Derfydd melfed, derfydd sidan,
Derfydd pob dilledyn helaeth;
Eto er hyn ni dderfydd hiraeth.

Ac yn aml iawn, wrth gwrs, yn tynnu coes:

On'd ydyw yn rhyfeddod
Bod dannedd merch yn darfod?
Ond tra bo yn ei genau chwyth,
Ni dderfydd byth ei thafod.

Wrth i ni heddiw chwilio am y geiriau addas, am y doniolwch angenrheidiol, ac am y doethineb sy'n cynnig gair o gysur, go brin y byddai'r rhan fwyaf ohonom mor wreiddiol, mor ffraeth ac mor delynegol â'r cyndeidiau a fuodd wrthi'n cyfansoddi a chofio'r penillion syml sydd yn y casgliad cyfoethog hwn