Lleuad Yn Olau

Language: Cymraeg

Illustrated by: Jac Jones

ISBN: 9781848517646

Current Publication Date: 2014

Format: Clawr Caled

Number of Pages: 184

Title available as:

£14.99
  1. About the book
  2. Look Inside
  3. Book Reviews

Details

Dwedai henwr llwyd o'r gornel,

'Gan fy nhad y clywais chwedel;

Can ei daid y clywodd yntau,

Ac ar ei ôl mi gefais innau.'

 

Dyma sut y daeth y chwedlau yma i lawr i ni; rhyw hen ŵr neu hen wraig yn eu hadrodd wrth eu plant a'u hwyrion, a'r rheiny'n eu cofio ac yn eu hadrodd wrth eu plant a'u hwyrion hwythau yn eu tro.  A hynny ar hyd y canrifoedd.  Roedd mynd mawr ar y chwedlau fel y rhain ar hen aelwydydd Cymru gynt, yng ngolau'r tân mawn a'r gannwyll frwyn, ar nosweithiau hirion y gaeaf.

 

A bu mynd mawr ar y gyfrol wreiddiol hon dros y blynyddoedd hefyd.  Nawr, bron i ganrif ers geni T. Llew Jones, 'brenin llenyddiaeth plant yng Nghymru', dyma gyhoeddi fersiwn newydd o 'Lleuad yn Olau' i'w thrysori eto gan blant o bob oed am genedlaethau lawer i ddod.