Cerddi Dic Yr Hendre

CERDDI DIC YR HENDRE

Language: Cymraeg

ISBN: 9781848512047

Current Publication Date: 2010

Format: Hardback

Number of Pages: 300

Title available as:

£14.99
  1. About the book
  2. Book Reviews

Details

Go brin y bu gan Gymru erioed fardd mor boblogaidd â Dic Jones.

Roedd yn adnabyddus ymhlith ei bobol ei hun – mewn mart, ymryson ac eisteddfod – ac yn wyneb a llais cyfarwydd ar lwyfannau a chyfryngau ledled y wlad. Ac roedd yr un mor gartrefol yn lifrai’r Archdderwydd ag yr ydoedd yn ei overalls a’i gap stabal ar glos fferm yr Hendre, Blaenannerch.

Mae Cerddi Dic yr Hendre yn ddetholiad estynedig o’r cyfrolau unigol hynny o farddoniaeth a gyhoeddwyd gan Dic Jones dros y blynyddoedd, ac yn cynnwys holl ystod ei gyfansoddiadau o’r penillion bychain bachog i’r awdlau meistraidd a enillodd iddo glod y beirniaid cenedlaethol.

Dic yr Hendre: bardd ei filltir sgwâr; bardd ei wlad; bardd y ddynoliaeth gyfan