Rhyfelgan

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781848518872

Dyddiad Cyhoeddi: 2016

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 133

Teitl ar gael ar ffurf:

£7.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Ganrif ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dyma gyfrol sy'n cyflwyno caneuon y cyfnod a ganwyd yng Nghymru, gwlad y gân, o blaid ac yn erbyn brwydro. Ni welodd rhai o'r caneuon yma olau dydd ers can mlynedd, a chyhoeddir sawl un ohonynt am y tro cyntaf erioed.

Man cychwyn diddordeb yr awdur yn y pwnc oedd hanes perthynas iddo o'r enw John Volander Jones - gweinidog, awdur a chefnogwr brwd i David Lloyd George.

Wrth ymchwilio i gyd-destun ehangach cerddoriaeth yr oes, datgelwyd trysorau sy'n dal i atseinio drwy'r holl flynyddoedd. Gan fod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u gosod ar alawon cyfarwydd, maent yn hawdd eu canu ac yn ddeunydd delfrydol ar gyfer cyngherddau a sioeau cerdd heddiw, i'w canu ar goedd, yn union fel pan gawsant eu hysgrifennu ganrif yn ôl. Hanes a chanu - cytgord perffaith.

Ewch i dudalen Rhyfelgan