Y Fenyw Ddaeth O'r Môr

Iaith: Cymraeg

Addaswyd gan: Menna Elfyn

ISBN: 9781785620102

Dyddiad Cyhoeddi: 2015

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 128

Teitl ar gael ar ffurf:

£6.95
  1. Manylion y llyfr
  2. Cyfieithiad
  3. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Yn ferch i geidwad y goleudy, mae Elida’n ysu am ryddid y môr. Er mor garedig yw ei gŵr, mae ei phriodas fel cawell amdani, y mynyddoedd yn cau o’i chwmpas, a hithau’n arnofio ym merddwr ei bywyd braf. Mae ymweliad dieithryn yn corddi’r dyfroedd. Ond ai dieithryn yw ef mewn gwirionedd? Wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â’i gorffennol cythryblus, yn sydyn rhaid gwneud y penderfyniad anoddaf un... aros neu ffoi?

Dyma stori garu fwyaf cyffrous Henrik Ibsen wedi ei chyfieithu i’r Gymraeg am y tro cyntaf erioed gan Menna Elfyn.