Hanes Atgas: Y Chwedegau Ych-a-fi

Language: Cymraeg

Illustrated by: Graham Howells

ISBN: 9781848518353

Current Publication Date: 2015

Format: Clawr Meddal

Number of Pages: 140

Title available as:

£5.99
  1. About the book
  2. Book Reviews

Details

Nawr, mae'n siŵr fod ambell berson ry'ch chi'n ei adnabod yn cofio'r 1960au, ond tybed ydyn nhw'n cofio popeth ddigwyddodd yn ystod y cyfnod seicadelig hwnnw?! Efallai eu bod nhw'n cofio mai yn 1960 y gwelwyd Coronation Street ar y teledu am y tro cyntaf, ond oes gyda nhw atebion i gwestiynau gwyllt fel:

  • Pam oedd y Chwedegau'n gyfnod mor ddrewllyd?
  • Beth oedd yr holl smotiau gwaed ar yr eira yng nghanol stormydd erchyll gaeaf caled 1962-3?
  • Pam oedd paentio arwyddion ffyrdd yn wyrdd yn arfer mor boblogaidd?

 

O'r Beatles i'r Blew, o lowyr i chwaraewyr rygbi, o Gaernarfon i Tiger Bay, o ganol tipis i babell yr Eisteddfod. o'r Mods a'r Rocyrs i ferched y sgertiau mini, dyma gyfrol sy'n llawn ffeithiau blodeuog a byrlymus fydd yn gwneud i'ch meddwl droi.  Felly neidiwch ar eich beic modur a bant â ni!

Heb os, chi fydd y person mwyaf lliwgar ei feddwl ymysg eich ffrindiau i gyd ar ôl darllen Hanes Atgas Y Chwedegau Ych-a-fi.