Gwyllgi

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781848517158

Dyddiad Cyhoeddi: 2013

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 254

Teitl ar gael ar ffurf:

£8.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

Ar ddechrau Gwyllgi mae Oswyn Felix wedi’i glymu wrth gadair mewn gwesty rhad rywle yng ngogledd Lloegr. Putain yn eistedd ar y gwely o’i flaen a llofrudd yn sefyll y tu ôl iddo … Mae drws yr ystafell yn ffrwydro’n agored a daw rhywun arall iddi, ei fryd ar ladd a’i ddryll yn poeri bwledi ac yn taro’r tri ohonynt.

Dyma’r drydedd nofel, a’r olaf, yng nghyfres Oswyn Felix. Sut cafodd y dyn caled o ogledd Cymru ei hun i mewn i’r fath strach? Mae’n stori gymhleth ond mae’n un dda.

Mae yna ddrwg yn y caws yn rhywle. Twyll a dichell o bob cyfeiriad, ond pwy sydd wrth wraidd yr holl gynllwynio? Pwy sydd yn blacmeilio pwy? Yn bwysicach fyth, pwy sydd yn lladd pwy? Gwleidyddiaeth, pêl-droed, gangstyrs a phuteiniaid. A Felix yn ei chanol hi, fel arfer.