Swigod: Hei Now, Now!

SWIGOD: HEI NOW, NOW!

Iaith: Cymraeg

Arlunydd: Helen Flook

ISBN: 9781848514560

Dyddiad Cyhoeddi: 2012

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 100

Teitl ar gael ar ffurf:

£4.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

'Maen nhw'n mynd i chwalu Siop Bobi Bob Dim! Wedyn, maen nhw'n mynd i chwalu'r castell...ac wedyn maen nhw'n mynd i chwalu...NI!'

Dydy Now ddim 'run fath â phawb arall. Mae rhywbeth od yn digwydd iddo weithiau - mae beth bynnag mae o'n meddwl amdano yn digwydd, go iawn! Now Niwsans mae Mr HHH yn ei alw. Yn ôl ei reolau gwirion o, rhaid i bawb a phopeth edrych ac ymddwyn yr un fath. Ac mae o eisiau dileu unrhyw beth sy'n wahanol, gan gynnwys yr ysgol, y castell, a Siop Bobi Bob Dim! Ond tybed a fydd Now a'r rhywbeth od yn gallu rhoi stop ar gynlluniau Mr HHH a'i swyddogion llwyd?