Merch Perygl: Cerddi 1976-2011

MERCH PERYGL: CERDDI 1976-2011

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781848512856

Dyddiad Cyhoeddi: 2011

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 214

Teitl ar gael ar ffurf:

£12.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

'Mae ei cherddi ... yn destament i'r Gymraeg ei hun fel cyfrwng modern a rhagorol ar gyfer llenyddiaeth o'r radd flaenaf.'
Robert Minhinnick

Nid oes yr un ferch arall wedi cyhoeddi mwy o gyfrolau o gerddi Cymraeg na Menna Elfyn.

Dyma gyfrol arbennig iawn felly, detholiad thematig o gerddi sy'n rhychwantu bron i ddeugain mlynedd o farddoni. Mae'n dathlu gyrfa farddol unigryw sy'n gyforiog o ddelweddau cofiadwy a thrawiadol.

Mae trefn y gyfrol yn ôl themâu’n cyfleu diddordebau ysol y bardd: profiad y ferch, gwleidyddiaeth Cymru a’r byd, serch, byd natur a’r ysbrydol. Mae dewrder yn gymysg â direidi, gobaith â galar – ble bynnag yr â Menna mae’n croesi ffiniau.

'Mae hi'n eich tynnu i mewn i'w byd yn llwyr. Byddwch yn anghofio gadael y trên o'i herwydd. Bydd eich te yn oeri o'i herwydd.'
Siân Melangell Dafydd