Chwilio Am Sebastian Pierce

Iaith: Cymraeg

ISBN: 9781843239901

Dyddiad Cyhoeddi: 2009

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 296

Teitl ar gael ar ffurf:

£7.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

"Ces fy nifyrru hyd at chwerthin! Ond wrth i'r storïwyr ddweud eu hanes, pa hunan-dwyll sydd ar waith? O atgyfodi'r gorffennol, sawl stori wir sydd yn y pen draw? Darllenwch, holwch, mwynhewch." Mererid Hopwood

Pasg 1973. Mae'r rhyfel yn Fietnam newydd ddod i ben, mae sgandal Watergate yn ei hanterth, ac ar y Costa del Sol mae Byron a Huw yn cwrdd â Sebastian ac yn ildio i'w gyfaredd. Ond mae eu chwarae'n troi'n chwerw a chyn diwedd y gwyliau mae corff y ffrind newydd yn gorwedd ar y creigiau.

Mehefin 2007. Erbyn hyn, mae Huw yn ddyn tywydd ar y teledu ac yn darogan glaw trwm. Gwerthwr tai yng Ngorllewin Cymru yw Byron. Ac yn un o'r tai hynny, daw tystiolaeth i'r golwg fod Sebastian yn dal yn fyw. Mae'r chwilio'n dechrau.

Dyma nofel am dwyll a dialedd sydd eto'n llawn hiwmor tywyll.