Dolenni Hud

Iaith: Cymraeg

Arlunydd: Simon Proffitt

ISBN: 9781848510326

Dyddiad Cyhoeddi: 2008

Ffurf: Clawr Meddal

Nifer o Dudalennau 168

Teitl ar gael ar ffurf:

£12.99
  1. Manylion y llyfr
  2. Adolygiadau Llyfr

Manylion

‘Fe’m cyfareddwyd gan Dolenni Hud. Mae’r storïau hyn yn dewino awyrgylch ac yn dadlennu bwriadau yn y modd doeth a diymdrech yr ydym wedi dod i’w ddisgwyl gan un o awduron pwysica’r iaith. Mae llyfr newydd gan Owen Martell megis carreg filltir yn natblygiad rhyddiaith Gymraeg gyfoes.’
Grahame Davies

Mae chwe stori a deugain ffotograff Dolenni Hud yn ymrithio Cymru arall, gwlad sydd ar yr un gwynt yn gyfarwydd – Bangor, Cardiff, Llangollen – ac yn gwbl estron. Mae’r gyfrol arbennig ac unigryw hon yn chwilio’r cysylltiadau cudd rhwng y ddau, a’r cydio anweledig rhwng tirlun a ffurf a pherson – y ‘rhagor’ hwnnw sydd ‘rhwng enw ac enw’.